Os deuaf drwy'r anialwch
Os dof i trwy'r anialwch

Os dof fi trwy'r anialwch
  Rhyfeddaf fyth dy ras,
A'm henaid i lonyddwch
  'R ôl ganwaith golli'r maes;
A'r maglau wedi eu torri,
  A'm traed yn gwbwl rydd:
Os gwelir fi fel hynny,
  Tragwyddol foli a fydd.

Fe genir, ac fe genir
  Yn nhragwyddoldeb maith,
Os gwelir un pererin
  Mor lesg ar ben ei daith,
A gurwyd mewn tymhestloedd,
  A olchwyd yn y gwaed,
A gannwyd ac a gadwyd,
  Trwy'r iachawdwriaeth rad.
1: 1812 Hannah Joshua
2: Dafydd Morris 1744-91

Tôn [7676D]: Llangloffan (alaw Gymreig)

gwelir:
  Agorodd ddrws i'r caethion
  Mae Crist a'i w'radwyddiadau
  Os gwelir fi bechadur
  Pererin wyf yn teithio
  Wel dyma'r Un sy'n maddeu

If I come through the desert
  I shall wonder forever at thy grace,
And my soul to joy
  After a hundred times losing the field;
And the snares having been broken,
  And my feet completely free:
If I am to be seen like this,
  There shall be eternal praise.

It shall be sung, and it shall be sung
  In a vast eternity,
If to be seen is one pilgrim
  So feeble at his journey's end,
Who was beaten in tempests,
  And washed in the blood,
And born and kept,
  Through free salvation.
tr. 2021 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~